Rhagarweiniad
Mae Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 yn rheoli sut mae data personol yn cael ei brosesu. Mae’r ddeddfwriaeth yma hefyd yn rhoi hawliau penodol i unigolion ynglŷn â’r ffyrdd y caiff data amdanynt ei brosesu.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn rhoi gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fydd PATROL yn casglu gwybodaeth bersonol yn gysylltiedig â’ch ymholiad.
Gwybodaeth am PATROL
Mae’n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol sy’n ymgymryd â gorfodi parcio sifil i ddarparu system ddyfarnu annibynnol. Mae’r berthynas rhwng y dyfarnwyr a’r Cyd-bwyllgor yn deillio o, ac yn cael ei lywodraethu gan y Ddeddf Rheoli Traffig 2004, neu gan y Ddeddf Drafnidiaeth 2000 yn achos Cyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws.
Mae dros 300 o awdurdodau yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain) yn aelodau o Gyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau PATROL, ac yn gweithredu’r ddyletswydd yma ar y cyd.
Prif swyddogaeth y Cyd-bwyllgor yw darparu adnoddau i gynorthwyo’r dyfarnwyr annibynnol a’r staff sy’n rhan o’r Tribiwnlys Cosbau Traffig. Mae’r Tribiwnlys yn delio gydag apeliadau ynglŷn â’r materion canlynol:
- Parcio
- Lôn Bws
- Traffig Symudol ( Cymru yn unig)
- Taliadau am ddefnyddio’r ffordd
- Taflu sbwriel o gerbydau
Yn ychwanegol, mae PATROL yn ymgymryd â mentrau i gefnogi awdurdodau lleol a chodi ymwybyddiaeth o amcanion gorfodi sifil drwy ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar wefan PATROL.
Prosesu eich Data Personol – Y Sail Gyfreithlon
Mae’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yn deillio o Erthygl 6 o’r GDPR. Mae gan PATROL sail gyfreithlon dros brosesu data oherwydd eu bod yn cyflawni tasg gyhoeddus, ac mae prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg sydd er lles y cyhoedd, neu er mwyn cyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Mae gan y dasg a’r dyletswyddau yma seiliau clir yn y gyfraith.
Sut yr ydym yn defnyddio eich data personol
Mae PATROL yn defnyddio’r manylion yr ydych yn ei rannu drwy wefan PATROL (enw, cyfeiriad e-bost, pwnc a neges) i ymateb i’ch ymholiad. Maent hefyd yn defnyddio unrhyw wybodaeth sy’n cael ei anfon i gyfeiriad e-bost ‘info@patrol-uk.info’ i ymateb i’ch ymholiad.
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich data?
Mae PATROL yn cadw’r wybodaeth ynglŷn â’ch ymholiad am 3 mis yn dilyn yr eitem ddiwethaf o ohebiaeth.
Sut yr ydym yn cadw eich data
Mae diogelu eich data yn bwysig iawn i PATROL. Rydym yn cymryd pob cam i sicrhau fod eich data yn cael ei gadw’n breifat ac yn ddiogel. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu drwy’r system apeliadau ar-lein yn cael ei gadw yn ein cronfa ddata diogel. Mae’r data yma yn aros oddi fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Cadw eich data yn ddiogel
Yn gyffredinol, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel, ac ni allwn warantu fod eich data yn ddiogel. Mae diogelu eich data yn bwysig iawn i PATROL, ac rydym yn cymryd pob cam i sicrhau fod eich data yn cael ei gadw’n breifat ac yn ddiogel. Rydym yn amgryptio’r holl ddata sy’n cael ei drosglwyddo neu ei dderbyn gan ein systemau.
Rhannu eich gwybodaeth
Yn dibynnu ar natur eich ymholiad, efallai y bydd ymateb cyflymach yn bosibl os yw PATROL yn gallu rhannu’ch ymholiad gyda’r canlynol:
- Yr awdurdod a gyflwynodd y gosb.
- Y Tribiwnlys Cosbau Traffig os yw’ch ymholiad yn ymwneud ag apêl sydd wedi ei ddechrau, neu apêl yr ydych am gyflwyno yn y dyfodol.
Pe byddai’n well gennych gysylltu â’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym wrth anfon eich ymholiad, fel y gallwn ni ddarparu’r manylion cyswllt perthnasol.
Oni bai eich bod yn dweud wrthym ni am beidio, byddwn yn cymryd eich bod yn rhoi caniatâd i ni rannu’ch ymholiad gyda’r sefydliad priodol er mwyn delio gyda’ch ymholiad.
Nid fyddem yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill yn gysylltiedig â’u materion marchnata, ymchwil y farchnad neu unrhyw bwrpas masnachol. Ni fyddem yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall.
Ymwelwyr i’n gwefan
Pan fydd rhywun yn ymweld â’n gwefan www.patrol-uk.info, rydym yn defnyddio gwasanaeth Google Analytics i gasglu gwybodaeth arferol am y rhyngrwyd, ac i gasglu gwybodaeth am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Mae’r wybodaeth yma yn cael ei brosesu mewn ffordd sy’n sicrhau nad yw’n bosib adnabod neb o’r manylion sydd wedi eu casglu.
Cwcis
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd mae PATROL yn defnyddio cwcis ymwelwch â’n gwefan:
https://www.patrol-uk.info/cy/polisi-cwcis/
Recordio Galwadau
Mae pob galwad i neu gan PATROL yn cael ei recordio at ddibenion ansawdd a hyfforddiant
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio eich data
Os ydych chi eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â’r ffordd mae PATROL yn defnyddio eich data anfonwch e-bost at dpo@patrol-uk.info.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd mae PATROL yn defnyddio eich data cysylltwch â:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – rhif ffôn – 0303 123 113