Ar ôl derbyn HTC, mae’n rhaid gweithredu’n gyflym i dalu’r gosb neu wrthwynebu, Peidiwch ag anwybyddu’r HTC.
Rhowch rif yr HTC ar bob gohebiaeth ynglŷn â’r HTC, a’i ddefnyddio wrth ddelio â galwadau ffôn.
Dyddiadau pwysig/termau talu
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr HTC sy’n egluro sut i’w dalu. Mae’n rhaid talu’r HTC oddi fewn 28 diwrnod – diwrnod 1 yw’r dyddiad y rhoddwyd yr HTC ar y cerbyd, neu’r dyddiad y rhoddwyd i’r gyrrwr.
Mae’n bosib talu hanner y gosb os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd yr HTC ar y cerbyd, neu’r dyddiad y rhoddwyd i’r gyrrwr ( HTC Parcio a Lôn Bws)
Os ydi’r awdurdod wedi defnyddio camera i recordio’r tramgwydd, ac wedyn yn anfon HTC drwy’r post, mae’n bosib talu hanner y gosb os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 21 diwrnod ( HTC Parcio yn unig).
Nid yw’n bosib gwrthwynebu’r HTC ar ôl ei dalu.
MANYLION EICH HTC
Rhowch y ddwy lythyren gyntaf o’ch HTC yn y blwch isod i chwilio am fanylion yr awdurdod perthnasol.