Mae’n rhaid gwrthwynebu neu dalu’r Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) oddi fewn 28 diwrnod ar ôl ei dderbyn. Os ydych chi’n dewis anwybyddu’r HTC a’r Hysbysiad i’r Perchennog (HiP) sy’n dilyn am 28 diwrnod, mae’n agored i’r awdurdod gynyddu’r gosb o 50%.
Ar ôl hynny, mae gennych chi 14 diwrnod i dalu’r swm cynyddol. Nid yw’n bosib i’r awdurdod codi’r gosb o 50% os ydynt yn ystyried eich sylwadau, neu os ydi’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn delio gydag apêl.
Os ydych chi’n anwybyddu’r gosb gynyddol, mae’n agored i’r awdurdod gofrestru’r gosb fel dyled gyda’r Llys Sirol, ac mae swm pellach o £ 8 yn cael ei ychwanegu at y gost.
Os na fyddwch chi’n talu’r ddyled oddi fewn 21 diwrnod, mae’n bosib i’r Llys Sirol anfon gwarant i’r beilïaid. Gallai hyn olygu costau ychwanegol, ac mae’n bosib i’r beilïaid gymryd eiddo o’ch cartref i dalu’r ddyled.
£25 – Os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd yr HTC ar y cerbyd neu i’r gyrrwr. Os ydi’r awdurdod wedi anfon HTC drwy’r post, mae’n rhaid iddynt dderbyn eich taliad oddi fewn 21 diwrnod. Mae’n bosib i’r awdurdod ymestyn y dyddiadau yma os ydynt yn ystyried eich sylwadau.
£50: Os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 28 diwrnod.
£75: Os nad ydych wedi talu oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr HiP.
£83: Os nad ydych wedi talu oddi fewn 14 diwrnod arall.
£83: Os nad ydych wedi talu’r £83 uchod, mae’n rhaid talu costau’r beilïaid yn ychwanegol.
£35 – Os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y rhoddwyd yr HTC ar y cerbyd neu i’r gyrrwr. Os ydi’r awdurdod wedi anfon HTC drwy’r post, mae’n rhaid iddynt dderbyn eich taliad oddi fewn 21 diwrnod. Mae’n bosib i’r awdurdod ymestyn y dyddiadau yma os ydynt yn ystyried eich sylwadau.
£70: Os ydi’r awdurdod yn derbyn eich taliad oddi fewn 28 diwrnod.
£105: Os nad ydych wedi talu oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr HiP.
£113: Os nad ydych wedi talu oddi fewn 14 diwrnod arall.
£113: Os nad ydych wedi talu’r £113 uchod, mae’n rhaid talu costau’r beilïaid yn ychwanegol.