Defnyddiwch y tabiau isod i weld y rolau a hysbysebir ar hyn o bryd yn PATROL.
Bydd y rôl hon yn darparu gwybodaeth ar ran y Tribiwnlys Cosbau Traffig, yn bennaf ar ffurf cyhoeddiadau ar y we i'r cyhoedd ac ymholwyr eraill. Bydd hefyd yn cynnwys darparu cefnogaeth i'r Rheolwr Ymgysylltu a Systemau Rhanddeiliaid i ddarparu cynnwys gwe, adroddiadau a gwybodaeth gyhoeddus, yn ogystal ag ymgymryd ag ystod o ymchwil bwrdd gwaith.
Darllenwch fwy yn y disgrifiad swydd.
I wneud cais am y rôl hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: recriwtio@patrol-uk.info.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 12 Gorffennaf.
Yn gweithio yn PATROL
Mae rôl yn PATROL yn cynnig cyfle cyffrous i’r ymgeisydd iawn fod yn rhan o sefydliad â phroffil cenedlaethol, sy’n cynrychioli dros 300 o awdurdodau lleol ar draws Lloegr (y tu allan i Lundain) a Chymru ym maes pwysig parcio a gorfodi traffig..
Mae PATROL hefyd yn goruchwylio’r cyllid ac yn darparu ystod o wasanaethau a seilwaith (gan gynnwys Cyllid, Adnoddau Dynol a TG) ar gyfer y Tribiwnlys Cosbau Traffig, y corff barnwrol annibynnol a awdurdodwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer penderfynu ar apeliadau yn erbyn cosbau traffig a gyhoeddir gan yr awdurdodau hyn, yn ogystal â chosbau o gynlluniau traffig cenedlaethol nodedig eraill, megis Croesi Afon Dartford-Thurrock.
Oherwydd yr effaith uniongyrchol ar y cyhoedd a pholisi, yn ogystal â mewnwelediadau a phrofiad gwerthfawr o waith yr awdurdodau a'r Tribiwnlys Cosbau Traffig, mae PATROL yn llais cynyddol ddylanwadol mewn llywodraeth ganolog a'r diwydiant trafnidiaeth ehangach. Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig hefyd yn cael ei ystyried yn gyson fel esiampl ryngwladol o ran darparu cyfiawnder digidol a datrys anghydfodau, gan gynnig profiad defnyddiwr apeliadau cwbl ar-lein a chynnwys cysylltiedig.
Fel corff sector cyhoeddus, mae PATROL yn cynnig cyfraniadau pensiwn deniadol (i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol) a hawl gwyliau hael. Mae'r sefydliad hefyd yn gweithredu system oriau hyblyg, gweithio hybrid, hyfforddiant a pharcio am ddim wrth fynychu'r brif swyddfa yn Wilmslow, Swydd Gaer.