Ateb:
Bydd arwyddion ar ffyrdd yn y parth ac o'i amgylch, sy'n dangos symbol cwmwl gwyn o fewn cylch gwyrdd, yn nodi bod cynllun Parth Aer Glân ar waith. Bydd llythyren A–D hefyd yn cael ei chynnwys ar y symbol (gweler y delweddau isod), yn dynodi’r dosbarth parth sy’n berthnasol.

Mae'r 4 dosbarth â llythrennau esgynnol yn ymwneud â'r gwahanol grwpiau o gerbydau y codir tâl arnynt, fel a ganlyn:
• Dosbarth A: Bysiau, coetsis, tacsis, cerbydau hurio preifat
• Dosbarth B: Bysus, coetsis, tacsis, cerbydau hurio preifat, cerbydau nwyddau trwm
• Dosbarth C: Bysus, coetsis, tacsis, cerbydau hurio preifat, cerbydau nwyddau trwm, faniau, bysiau mini
• Dosbarth D: Bysiau, coetsis, tacsis, cerbydau hurio preifat, cerbydau nwyddau trwm, faniau, bysiau mini, ceir (mae gan yr awdurdod lleol yr opsiwn hefyd i gynnwys beiciau modur)
Sylwch fod nifer o Eithriadau a gostyngiadau Parth Aer Glân berthnasol i wahanol barthau.