Penodi Heidi Alexander yn Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
Rhagfyr 2, 2024
Mae Heidi Alexander, AS De Swindon, wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Mae Ms Alexander wedi’i dyrchafu o’i rôl flaenorol fel Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a, chyn dod yn AS eto yn etholiad mis Gorffennaf, bu’n gweithio fel dirprwy faer trafnidiaeth yn Llundain rhwng 2018 a 2021. Cyn hynny bu’n AS dros Lewisham Dwyrain.