Teyrngedau yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Simon Cronin
Mae'n ddrwg gan PATROL adrodd am farwolaeth aelod o'r Cyd-bwyllgor, y Cynghorydd Simon Cronin o Gyngor Dinas Caerwrangon, yn dilyn salwch byr.
Gwasanaethodd y Cynghorydd Cronin fel Cynghorydd dros Ward Lleiandy Caerwrangon ers 2007 ac roedd wedi cael ei ail-ethol yn ddiweddar. Bu'n weithgar mewn ystod eang o faterion yn ymwneud â swyddogaethau trwyddedu a rheoleiddio'r Cyngor.
Bu’n aelod o Gyd-bwyllgor Dyfarnu PATROL ers 2014 ac roedd yn bresennol yn rheolaidd mewn cyfarfodydd.
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Hughes, Cadeirydd PATROL: 'Bydd Simon yn cael ei golli'n fawr gan bawb yn PATROL - roedd yn berson gwych ac yn chwaraewr tîm gwych. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn mynd allan i'w deulu a'i gydweithwyr yn y Cyngor.'
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Caerwrangon, David Blake: 'Ar ran holl staff Cyngor Dinas Caerwrangon, hoffwn estyn ein cydymdeimlad i deulu, ffrindiau ac anwyliaid Simon. Roedd Simon yn cael ei barchu a'i hoffi gan lawer o'r staff a fu'n gweithio gydag ef dros y blynyddoedd. Mewn oes pan mae gwleidyddiaeth yn gallu cynhesu ychydig, Simon oedd llais llonydd y rheswm bob amser a bydd pawb yn gweld eisiau ei agwedd gynnes a chyfeillgar yn fawr. Byddem yn aml yn stopio ac yn sgwrsio pan fyddem yn taro ar ein gilydd ar y Stryd Fawr ac mae'n hynod drist bod Caerwrangon wedi colli gwleidydd mor garedig ac ymroddedig.'