RHAGARWEINIAD

Mae’n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol sy'n ymgymryd â gorfodi parcio sifil i ddarparu system ddyfarnu annibynnol. Mae’r berthynas rhwng y dyfarnwyr a’r Cyd-bwyllgor yn deillio o, ac yn cael ei lywodraethu gan y Ddeddf Rheoli Traffig 2004, neu gan y Ddeddf Drafnidiaeth 2000 yn achos Cyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws (BLASJC).


Mae dros 300 o awdurdodau yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain) yn aelodau o Gyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau PATROL, ac yn gweithredu’r ddyletswydd yma ar y cyd.


Prif swyddogaeth y Cyd-bwyllgor yw darparu adnoddau i gynorthwyo’r dyfarnwyr annibynnol a’r staff sy’n rhan o’r Tribiwnlys Cosbau Traffig. Mae’r Tribiwnlys yn delio â:

  • Parcio: Cymru a Lloegr ( tu allan i Lundain)
  • Lôn Bws: Cymru a Lloegr ( tu allan i Lundain)
  • Traffig Symudol : Cymru yn unig
  • Taliadau am ddefnyddio’r ffordd: Croesfan Afon Dartford-Thurrock, Parth Atal Tagfeydd Durham, a Chroesfan Pont Afon Merswy.


Yn ychwanegol, mae PATROL yn ymgymryd â mentrau i gefnogi awdurdodau lleol a chodi ymwybyddiaeth o amcanion gorfodi sifil gan gynnwys:

  • Defnyddio gwobrau PARC i hyrwyddo’r awdurdodau i gyflwyno adroddiadau parcio lleol.
  • Darparu gwybodaeth ynglŷn â gorfodi sifil drwy wefan PATROL.
  • Cyfeirio materion sydd o ddiddordeb ynglŷn â rheoli traffig i’r awdurdodau lleol, tra hefyd yn ystyried safbwyntiau modurwyr (e.e. drwy system apeliadau’r Tribiwnlys Cosbau Traffig).

CADEIRYDDION Y CYD-BWYLLGOR

Mae cadeiryddion Cyd-bwyllgorau Gwasanaeth Dyfarniadau PATROL a Lonydd Bws (BLASJC) i’w gweld isod.

IS-BWYLLGORAU GWEITHREDOL

Mae’n bosib gweld rhestr o aelodau’r Is-bwyllgor Gweithredol ar ein gwefan

AELODAETH – AWDURDODAU LLEOL

Defnyddiwch ein rhestr o awdurdodau lleol i ddarganfod ein haelodau.

CYFARFODYDD

CYFARFOD LLEOLIAD DYDDIAD HYSBYSIAD AGENDA
Is-bwyllgorau Gweithredol Cyd-bwyllgor Dyfarniadau PATROL a Chyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws (BLASJC) Llundain 31-10-2017 Hysbysiad  Papurau
Is-bwyllgorau Gweithredol Cyd-bwyllgor Dyfarniadau PATROL a Chyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws (BLASJC) Llundain 30-01-2018 Hysbysiad  Papurau
Cyfarfod Cyd-bwyllgor Dyfarniadau PATROL a Chyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws (BLASJC) Llundain 10-07-2018 Hysbysiad  Papurau

Mae cyn-bapurau Cyd-bwyllgor Dyfarniadau PATROL a Chyd-bwyllgor Gwasanaeth Dyfarniadau Lonydd Bws ar gael yma.

en_GBEnglish (UK)
Skip to content