Pethau i wneud
- Edrychwch yn ofalus ar yr arwyddion, llinellau a’r marciau ffordd cyn parcio eich cerbyd.
- Os ydych chi’n arddangos bathodyn glas, sicrhewch ei fod â’i wynebu i fyny yn dangos symbol y gadair olwyn, a’i fod wedi ei osod yn glir ar y dashfwrdd/panel blaen. Os oes rhaid arddangos cloc parcio hefyd, gwnewch yn siŵr ei fod ar y dashfwrdd gyda’r cloc yn dangos yr amser y cyrhaeddoch chi yn glir.
- Sicrhewch fod gennych chi’r newid cywir i brynu tocynnau parcio cyn mynd i’ch cerbyd.
- Sicrhewch fod eich tocyn talu ac arddangos wedi ei arddangos yn glir. Cyn gadael eich cerbyd, sicrhewch bob amser nad yw’r tocyn wedi symud oherwydd gwynt, neu wrth gau drws y cerbyd.
- Os ydych chi’n talu am barcio ar lein drwy ddefnyddio ‘ap’, neu yn talu dros y ffôn, sicrhewch fod rhif cofrestru’r cerbyd a rhif y man parcio wedi eu nodi yn gywir. Gwrandewch yn ofalus ar y manylion sydd wedi ei recordio gan y system dalu i sicrhau eu bod yn gywir.
- Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith mae’r perchennog (sydd wedi ei gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau –‘DVLA’) sy’n gyfrifol am unrhyw dramgwydd.
- Rhowch wybod i’r DVLA os nad ydych bellach yn berchen ar gerbyd penodol. Sicrhewch eich bod yn cwblhau ac yn anfon y gwaith papur perthnasol atynt.
- Ceisiwch barcio mewn maes parcio sydd wedi ei redeg gan y Cyngor, gan fod system apelio at dribiwnlys annibynnol ar gael i ddelio gydag anghytundebau ynglŷn â’r HTC.
- Dylid cadw unrhyw ddogfennau sy’n gysylltiedig â thasgau llwytho/dadlwytho – mae’n bosib eu defnyddio fel tystiolaeth mewn apêl.
Pethau i’w hosgoi
- Peidiwch â chymryd siawns os ydych chi’n ansicr ynghylch ystyr arwyddion, llinellau neu farciau ffordd.
- Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith fod tocynnau talu ac arddangos yn gallu symud o’u lle. Sicrhewch fod y tocyn dal yn ei le ar ôl cau drysau’r cerbyd.
- Peidiwch â gadael eich cerbyd i fynd i chwilio am newid. Nid yw hwn yn sail ar gyfer apêl.
- Peidiwch â rhoi benthyg eich cerbyd i eraill gan fod y perchennog yn gyfrifol am y gosb yn hytrach na’r gyrrwr.
- Wrth werthu eich cerbyd, peidiwch â dibynnu ar unrhyw un arall i gwblhau dogfennau’r ‘DVLA’. Gwnewch hyn eich hun.
- Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol wrth apelio yn erbyn HTC – defnyddiwch gopïau.
Pethau i wneud
- Cyn gyrru mewn lôn bws, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r amseroedd pan mae’r cyfyngiadau mewn grym.
- Gwnewch eich ymchwil ynglŷn ag ardaloedd neu drefi newydd cyn dechrau ar eich taith.
- Os ydych chi’n gyrru Cerbyd Hurio Preifat, holwch y Cyngor lleol cyn gyrru mewn lôn bws, gan fod y rheolau ynglŷn â’u defnyddio yn wahanol o ardal i ardal.
Pethau i’w hosgoi
- Peidiwch â dibynnu ar system ‘Sat Nav’ i osgoi lonydd bysiau – nid ydynt bob amser yn gywir. Er eu bod yn ddefnyddiol, cyfrifoldeb y gyrrwr yw gyrru gyda gofal a sylw priodol.
Pethau i wneud
- Os ydych chi’n defnyddio Croesfan Afon Dartford, sicrhewch eich bod yn talu ar-lein os nad oes gennych gyfrif. Ewch i wefan Dartford Crossing Charge i dalu cyn hanner nos y diwrnod ar ôl defnyddio’r groesfan. Os ydych chi’n agor cyfrif, byddwch yn ymwybodol fod sawl math gwahanol o gyfrif ar gael, ac efallai na fydd y swm sy’n ddyledus am eich taith wedi ei gynnwys.
Pethau i wneud
Trigolion Halton sy’n gyrru cerbyd neu fan llai na 3.5 tunnell
- Cofrestru gyda Merseyflow a thalu £10 y flwyddyn i groesi’r ‘Mersey Gateway’ a’r bont ‘Silver Jubilee’ am ddim. Byddwch yn derbyn sticer ‘Merseyflow’ i roi ar sgrin eich cerbyd.
- Cofiwch fod angen y dystiolaeth ganlynol i brofi eich bod yn gymwys:
- Trwydded yrru ddilys o’r DU.
- Dogfennau cofrestru’r cerbyd sy’n cadarnhau fod y cerbyd wedi ei gofrestru yn Halton.
- Bil Treth Cyngor sy’n cadarnhau eich bod yn byw mewn eiddo oddi fewn band treth A-F
Defnyddwyr Bathodyn Glas
- Cofrestru gyda Merseyflow a thalu £5 i groesi’r ddwy bont am ddim.
- Mae’n rhaid i berchennog y bathodyn glas fod yn y cerbyd pan mae’r cerbyd yn croesi’r bont.
Busnesau a gyrwyr eraill
- Mae’n rhaid talu bob tro mae’r cerbyd yn croesi’r bont. Mae gyrru dros y bont ag yn ôl wedyn yn ddwy siwrnai, ac mae’n rhaid talu ddwywaith.
- Mae’n rhaid talu erbyn hanner nos y diwrnod ar ôl teithio dros y bont i osgoi cosb o £40.
- Ymwelwch â gwefan Merseyflow i dalu, gan nad oes tollfeydd ar y bont. Ymwelwch â Mersey Gateway Tolls am wybodaeth ynglŷn â thaliadau a chyfrifon.
- Cofrestrwch am gyfrif Merseyflow i dalu 10% yn llai os ydych chi’n gwneud llai na 50 taith un ffordd pob mis. Mae’n rhaid talu ffi o £5 i gofrestru a rhoi swm o £30 yn y cyfrif i’w agor.
- Cofrestrwch am drwydded fisol os ydych chi’n gwneud mwy na 50 taith un ffordd pob mis.
- Prynwch drwydded fisol os ydych chi’n gyrru cerbyd Dosbarth 2.
- I dalu 10% yn llai, cofrestrwch am gyfrif ‘sticer talu ymlaen llaw’. Mae’n bosib gwneud trefniadau i’r cyfrif yma gasglu arian yn awtomatig o’ch cyfrif banc ymlaen llaw.
- Ymwelwch â gwefan Merseyflow yma i gofrestru ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffioedd sy’n berthnasol i wahanol fathau o gerbydau. Nid yw beiciau modur na bysus lleol yn talu ffi.
Pethau i wneud
- Os ydych chi’n gyrru yn Barth Atal Tagfeydd Durham, mae’n rhaid talu yn y Siop Barcio. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.